Cei Lawrenni a'r Aber
Erbyn y cyfnod Tuduraidd roedd Lawrenni hefyd yn ganolfan fasnach forol ac fe barhaodd y traddodiad hwn. Yn Lawrenni ail-lwythwyd sawl cargo a gludwyd ar gwch o Gei Cresswell a Landshipping. Roedd ceiau Lawrenni mewn safle da. Adeiladwyd nifer o gychod hwylio yn negawdau cyntaf y 19eg ganrif yn Lawrenni. Mae'n debyg fod hyn wedi datblygu o draddodiad masnachol cynharach. Wedi'r 1830au fe ddirywiodd y diwydiant.
Cei Lawrenni
Ymddengys mai'r cwch a adeiladwyd yn y 1850au oedd yr olaf i gael ei adeiladu yno. Roedd yna ddwy fferi: y fferi Roose i Williamston Pill a fferi Lawrenni i Cosheston. Yn ystod y 19eg ganrif roedd fferi ceffylau o Lawrenni yn cludo cŷn hela'r pentref yn rheolaidd. Yn gynharach yn yr ugeinfed ganrif fe ddaeth y teulu Davies yn adnabyddus fel gofalwyr y fferi.
Roedd y teulu yn byw yn Ferry Cottage heb dalu rhent ac roedd disgwyl iddynt ennill eu bara menyn trwy'r arian a gasglwyd ganddynt gan y teithwyr. Y Stâd oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r cwch. Roedd Tom Davies, a adnabyddid fel Tom y Fferi yn gymeriad lleol, yn hoff iawn o'i gwrw ac yn aml yn rhoi taith reit anghyffyrddus i'w deithwyr! Yn anffodus i Tom doedd dim tafarn yn Lawrenni ac felly arferai gerdded, weithiau ddwywaith y dydd i'r Cresselly Arms yng Nghei Cresswell. Parhaodd y fferi trwy gydol yr Ail Ryfel Byd gan ddod i ben yn ystod y 1960au.
Fe dynnwyd llymarchiaid o'r aber yn y cyfnod Tuduraidd ac fe ystyriwyd y rhai hynny a dynnwyd yn Lawrenni fel y rhai 'tewaf, gwynnaf a melysaf'. Fe'u cludid dros y dŵr i Fryste ac i fannau eraill, a thros y tir i dde Cymru ac i'r siroedd ar y ffin. Ar ddechrau'r 19eg ganrif dywedwyd fod llawer iawn yma a'u bod yn cael eu cludo i farchnadoedd Llundain mewn cychod o Chatham a Rochester. Daeth y farchnad hon i ben yn y 1850au. Adlewyrchir y gwaith morol arall a oedd yma yng Nghyfrifiad 1841 sy'n nodi fod yma 15 cychwr, 12 morwr, 3 saer llongau, 6 saer llongau prentis a rhwyfwr. Hanner can mylynedd yn ddiweddarach y cyfan a geid yma oedd 2 forwr, 1 saer llongau a 3 rhwyfwr. Yn y diwedd, wrth i lawer cei gael eu datblygu ymhellach i lawr yr afon ac wrth i'r diwydiannau glo a chalchfaen ddirywio daeth diwedd ar fasnach Lawrenni.
