Cei Cresswell

Daeth Cei Cresswell yn lle prysur oherwydd y diwydiant glo, ac roedd yn arbennig o bwysig yn ystod y ddeunawfed ganrif pan oedd yno 3 cei mewn gwirionedd a ffald lo dros erw o faint.

Cresswell QuayCresswell Quay

Newidwyd y dull o allforio’r glo gyda dyfodiad llongau mwy oedd yn angori yn Lawrenni ac yn derbyn rhywfaint o'r glo o fadau dadlwytho o Gei Cresswell. Roedd 21 o'r 40 llong a gafodd eu cofrestru ym 1795 fel bod yn hwylio ar y Cleddau yn gysylltiedig a Chei Cresswell. Roedd y rhain yn cynnwys 18 bad dadlwytho a 2 slŵp. Mae M.R.C. Price yn awgrymu fod y gwaith o allforio glo o Gei Cresswell wedi dod i ben cyn 1840, ond roedd llongau cyffredinol yn parhau i ddefnyddio'r 'Cei' hyd at yr 20fed ganrif.

Document Actions