Castell Hean

Yr adeilad gwreiddiol gyda'i amddiffynfeydd - a elwid 'Yr Hen Gastell' yn y cyfnod pan oedd pobl yn siarad Cymraeg yn y plwyf o hyd - a roddodd yr enw i'r ystad.

Bu'r amryw berchenogion yn y canrifoedd diweddar yn ymwneud a datblygiad diwydiannol yr ardal. Roedd yna bwll glo, menter Wogan yn ol bob tebyg, yn ymyl Neuadd Coppet erbyn 1764. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif roedd gan Thomas Stokes weithfeydd glo a mwyn haearn a sefydlodd waith 3 briciau. Cadarnhawyd pwysigrwydd Charles R Vickerman, gŵr o Lundain, wedi iddo brynu'r Castell ym 1863. Ef oedd mab Trysorydd y Cwmni Saundersfoot Railway and Harbour, ac o dipyn i beth fe ddaeth i reoli'r diwydiant lleol.

Charles Vickerman hefyd ailadeiladodd Castell Hean mewn tywodfaen coch gydag addurniadau mewn carreg 'Forest of Dean' yn null Oes Elizabeth. Fodd bynnag bu tro ar fyd ac erbyn ei farwolaeth ym 1897, roedd ei fentrau diwydiannol yn dirywio. Ym 1899 gwerthwyd Castell Hean i Syr William Thomas Lewis, y cyntaf o Farwniaid Merthyr o Senghennydd, ac mae wedi aros yn nwylo'i ddisgynyddion hyd heddiw.

Document Actions