Castell Dwyran Church

Mae eglwys plwyf Llandysilio yng Ngorllewin Llandysilio. Mae eglwys capeliaeth Eglwys Dwyran a phentref bychan y Grondre yn ffinio â buarth fferm Castell Dwyran.

Castell Dwyran ChurchAdeg adnewyddu Eglwys Castelldwyran ym 1876, daethpwyd o hyd i garreg arysgrif. Ar y garreg mewn ysgrifen ogam (gwyddor Wyddelig hynafol) ac mewn Lladin y mae'r enw Gwrthefyr (Voteporix), brenin Dyfed o dras Gwyddelig a oedd yn byw oddeutu 550 OC. O'i gyfieithu dyma a nodir arni 'Er Cof am Gwrthefyr y Gwarchodwr'. Mae'r garreg bellach yn Amgueddfa Caerfyrddin. Mae eglwys plwyf Llandysilio yng Ngorllewin Llandysilio. Mae eglwys capeliaeth Eglwys Dwyran a phentref bychan y Grondre yn ffinio â buarth fferm Castell Dwyran.

Document Actions