Castell Dinbych-y-Pysgod a Muriau'r Dref

Mae hanes Dinbych-y-pysgod sydd ar gof a chadw yn cychwyn gyda goresgyniad Penfro a'r diriogaeth gyfagos gan y Normaniaid ddiwedd y 11eg ganrif. Lle y bu'r 'gaer', adeiladwyd castell, y soniwyd amdano gyntaf ym 1153.

Tenby mainMuriau'r Dref

Tua'r tir mawr roedd ffos a rhagfur uchel o bridd yn amgylchu'r dre. Ond yn raddol disodlwyd y rhain gan furlenni carreg cryfach, tyrau a phyrth a amddiffynnid yn gadarn. Roedd gweithiau amddiffynnol yn gwarchod pen draw'r porthladd a'r culdir sy'n cysylltu'r dref â Castle Hill. Ym 1457 trosglwyddodd Iarll Jasper Tudur y muriau i'r dinasyddion.

Ar adeg dyngedfennol yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau (1471), rhoddwyd lloches yn y dref i Jasper a'i nai Harri Tudur (Harri'r VII yn nes ymlaen), pan oeddynt yn Lancastriaid ar ffo cyn iddynt hwylio i alltudiaeth. Bu iddynt ddychwelyd ym 1485 a gorymdeithio i Bosworth lle y gorchfygwyd Rhisiart III.

Document Actions