Castell Dale
Nid oes cofnodion dibynadwy ynghylch y castell gwreiddiol lle'r oedd y teulu De Vale yn byw tua 1100. Codwyd y tŷ presennol tua 1700 ac ar ôl hynny fe'i hadnewyddwyd ddwywaith, yr eildro tua dechrau'r ugeinfed ganrif. Ceir adeiladau hynach i'r de o'r tŷ presennol a oeddent o bosib yn rhan o'r adeilad hynafol.
Castell Dale & Eglwys Sant Iago
Cofnodir mai'r teulu Paynter, o Gernyw yn wreiddiol, oedd perchnogion Arglwyddiaeth Dale, ac yna, trwy briodas, daeth yr Arglwyddiaeth yn eiddo i'r Allens, o Gelliswick, ger Aberdaugleddau. Fe'u holynwyd gan deulu'r Lloyds o Geredigion, ac ar farwolaeth Arglwydd Milford yn 1823 newidiwyd yr enw i Lloyd Philipps. Y perchennog presennol yw Martyn H. B. Ryder, ŵyr y diweddar Gyrnol Rhodri Lloyd Philipps.
