Castell Caeriw

Yn draddodiadol credwyd bod y castell gwreiddiol yng Nghaeriw wedi cael ei adeiladu gan Gerald de Windsor, Normanwr a ddaeth gydag Arnulph de Montgomery, Iarll Normanaidd cyntaf Penfro.

Carew castle towerTŵr Castell Caeriw - Gwelir yr arfbais uwchben y bwa

Ei ddisgynyddion oedd yn gyfrifol am adeiladu pellach yn y Canol Oesoedd. Roedd y Dywysoges Nest a briododd Gerald de Windsor tua'r flwyddyn 1100 yn ferch i lywodraethwr Cymraeg olaf y rhan hon o Gymru. Un o'u plant, Angharad, oedd mam Gerald de Barri - Giraldus Cambrensis - Gerallt Gymro, ysgolhaig a chlerigwr pwysig. Gellir darllen hanes cyfareddol ei daith trwy Gymru ym 1188 gyda'r Archesgob Baldwin o Gaergaint, a oedd yn pregethu'r 3ydd Crwsâd, mewn argraffiad modern.

Document Actions