Castell ac Arglwyddiaeth
Cysylltir Arberth, a chestyll eraill, gyda gwladychiad y Normaniaid.
Castell Narberth
Yn raddol bach, gyrrwyd y Cymry brodorol tua'r gogledd, a chodwyd llinell o amddiffynfeydd o Roch i Amroth, er mwyn gwarchod eu tiroedd. Daeth y llinell hon i gael ei hadnabod fel y 'Landsker', gair Norseg yn golygu terfyn neu ffin.
Er i system arglwyddiaethau y Canol Oesoedd ddod i ben, parhau wnaeth y pwerau maenorol. Yng nghanol yr ail ganrif ar bymtheg, cafodd George Barlow o Slebets yr arglwyddiaeth gan y goron, ac arhosodd yn ei deulu hyd at ddiwedd y 18fed ganrif, pan werthwyd y stâd i Nathaniel Phillips. Ei ferch ef a briododd y Barwn de Rutzen. Daliodd y teulu hwn afael ar yr arglwyddiaeth hyd at farw'r Barwn olaf yn yr Ail Ryfel Byd.
