Carreg Groes Mesur-y-Dorth

Mae carreg groes yn dyddio o'r 7fed- 9fed ganrif yn sefyll mewn wal ar ochr y ffordd rhwng fferm Maes-y- Garreg a Heulfre.

Mesur-y-dorth stoneYstyr yr enw Mesur-y-Dorth yw mesur y bara. 'Roedd Dewi Sant wedi sefydlu traddodiad i gael mesur safonol ar dorth o fara er mwyn sicrhau fod pawb yn cael yr un faint mewn amser pan oedd prinder o fwyd. Meddylir i Esgob Tŷddewi ar ddyddiad yn hwyrach ddyfarnu fod mesur torth o fara i fod yr un maint a'r cylch ar garreg Mesur-y-Dorth. Credir hefyd i bererinion ar eu taith i Dyddewi aros wrth y garreg hon i fwyta eu pryd olaf cyn mynd ymlaen ar eu taith i Dyddewi.

Document Actions