Capel Zoar
Cyn adeiladu capel Zoar, roedd y Bedyddwyr lleol yn addoli yn nhowlad fferm Long Lane (a gedwid gan Tom Phillips).
Cawsant y safle
ar gyfer y capel newydd oddi wrth y brodyr William a John Thomas
Great Griggs a oedd yn aelodau yn Eglwys Fedyddwyr Glanrhyd a
thurnwyr a chowperiaid wrth eu galwedigaethau. Cafodd y rhan fwyaf
o'r gwaith cludo'i wneud am ddim gan David Evans Trelissey, a chafodd
y tŷ ychwanegol ar gyfer y gofalwr ei godi gan John Morgan. Mae'r
capel wedi cau ac erbyn hyn mae'n gapel gorffwys.
