Capel y Pysgotwyr
Yng nghefn yr hen fynwent codwyd capel ar gyfer pysgotwyr (a elwir yn Gapel Llongwyr yn lleol) gan Edmund Shirburn yn 1447.
Capel y pysgotwyr
Nodwedd amlwg yw'r paentiad hardd y tu ôl i'r allor garreg, a gyflwynwyd gan y teulu Mirehouse ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, yn dynodi Crist â'i freichiau ar led mewn ystum o gariad yng nghanol bywyd pentrefol Angle. Mae yno ddau angel gwarcheidiol yn cadw llygad ar ffiniau'r pentref hefyd.
