Capel y Bedyddwyr Molleston

Molleston yw un o Gapeli Bedyddwyr hynaf y sir. Mae dogfennau cynnar yn dyddio'n ôl i 1686 yn cyfeirio at drosglwyddo'r tir lle'r adeiladwyd y capel i Ymddiriedolwyr Molleston.

Molleston Baptist ChapelCapel y Bedyddwyr Molleston

Yn gynnar yn yr 1800au roedd Molleston yn denu aelodau o bob rhan o Sir Benfro ac roedd pobl yn teithio ar geffylau ac yn cerdded o Gas-wis, Treletert, Dale, Johnston, Picton, Y Garn a Marloes. Symudodd rhai aelodau gan ffurfio capeli yn Hwlffordd, Penfro ac Arberth. Dengys cofrestr Molleston fod 16 o bobl wedi symud i sefydlu Capel Bethesda yn Hwlffordd ym 1800. Ym 1906 symudodd 16 aelod gan ffurfio Capel Bethel yn Loveston.

Document Actions