Capel y Bedyddwyr, Croesgoch

Yn ystod yr 19fed ganrif sefydlwyd capeli Anghydffurfiol ar draws yr ardal.

Croesgoch chapelCynhaliwyd y gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg. Agorwyd y capel cyntaf yng Nghroesgoch yn 1816, cynhaliwyd gwasanaethau yn yr adeilad sydd yn awr yn festri'r capel. Agorwyd y Capel Bedyddwyr presennol ym Mehefin 1858. Y gweinidog cyntaf oedd Dafydd Phillips a'r gost o'i adeiladu oedd £846 a phum swllt ac erbyn iddo agor casglwyd £491 a phum swllt. Cymerwyd 6 mlynedd i dalu'r gost o adeiladu. Ar yr ail a'r trydydd o Fehefin, 1914 cynhaliwyd cyfarfodydd a gwasanaethau yng Nghroesgoch. Weithiau cynhelid cyfarfodydd pregethu ym mharc y capel ar ffordd Trefeigan, lle'r eisteddai'r gynulleidfa o filoedd ar feinciau.

Document Actions