Capel Sant Gofan
Mae Capel Sant Gofan sy’n filltir i’r gorllewin o’r pentref, yn dwyn enw un o gyfoedion Dewi nawddsant Cymru (6ed ganrif).
Capel Sant Gofan
Roedd Gobham/Gobban/Gofan yn Gristion Gwyddelig, a oedd, yn ôl yr hanes, wedi cuddio oddi wrth forladron mewn hollt a agorodd yn wyrthiol yn y graig. Treuliodd weddill ei fywyd yn y fan honno. Mae’r capel presennol yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol.
