Capel Redberth
Y ddau beth a arweiniodd at sefydlu'r capel oedd dyfodiad John Ashley - pregethwr Wesleaidd - i'r ardal ac esgeuluso adeilad yr eglwys a'r weinidogeth. Symudodd John Ashley, un o Gernyw i fyw i'r pentref ar ôl priodi Jane Phelps, merch Harry Phelps Ysw. o Norchard ym mhlwyf Jeffreyston.
Capel Redberth
Ymdrechodd ef a'i wraig i godi safonau moesol y trigolion lleol gan gynnal cyfarfodydd crefyddol yn y Lodge ac mewn mannau eraill. Ym 1822 cafodd bwthyn a gardd oedd yn eiddo iddynt ei droi'n gapel.
Ym 1837 symudodd y teulu Ashley i Dinbych-y-pysgod. Bu farw Mrs Ashley ym 1842 yn 70 oed, a Mr Ashley ym 1857 yn 86 oed. Fe'u claddwyd ym Mynwent Redberth. Ymysg yr arweinwyr cynnar roedd Thomas Howell, a arweiniodd y Gymdeithas ar ôl i'r teulu Ashley symud. Roedd ei fab, Harry Howell (a gafodd ei eni yn Fferm Croft ym 1835) yn bregethwr lleol yng nghylchdaith Penfro.
Yn ystod yr 20fed ganrif parhaodd y capel i gyfrannu at fywyd ysbrydol yr ardal ac mae trigolion lleol yn cofio'r Ysgol Sul lewyrchus yn y blynyddoedd cyn y rhyfel. Gallant gofio'r tripiau ysgol Sul i Saundersfoot, Pentywyn, Glanyfferi a Llansteffan. Yn Saundersfoot roedd y bwyd yn cael ei baratoi gan yr oedolion ac roeddent yn cael defnyddio gardd Burgess Bakery a arweiniai i'r traeth. Yn anffodus fe gaewyd y capel ar 12 Mai 1985 ac erbyn heddiw mae'n dŷ preswyl.
