Capel Pisga
Mae Pisga ger Cei Cresswell yn ferch eglwys i Molleston, canolfan bwysig gan y Bedyddwyr yn Ne Penfro.
Cynhaliwyd gwasanaethau ym Mhencoed i ddechrau. Yn ôl Robert Scourfield adeiladwyd y capel ym 1829 a chafodd ei ehangu a'i ail-ddodrefnu (pensaer K.W.Ladd) ym 1877.
Rhoddwyd rhydd-ddaliad y capel, yr ysgoldy, y fynwent a'r mans (adeiladwyd ym 1885 yng Nghei Cresswell) i'r eglwys gan Henry Seymour Allen Ysw. Cresselly House. Ym mis Rhagfyr 1922 torrwyd tir newydd pan roddodd Pisga alwad i Miss Annie Davies Lodwick o Lansawel i fod yn weinidog arnynt. Hi oedd y ferch gyntaf i gael ei hordeinio'n weinidog gydag enwad y Bedyddwyr ym Mhrydain.
Caewyd Soar, Capel yr Annibynwyr, Carew Newton ym 1994. Wedi ei sefydlu ym 1861, roedd y tŷ cwrdd cyntaf yng nghroesffordd Carew Newton (sydd erbyn hyn wedi'i droi'n gartref). Adeiladwyd capel ar y safle presennol ym 1865. Ym 1912 codwyd lefel y to ac adeiladwyd festri. Anrheg oddi wrth Syr Thomas Meyrick o Bush oedd tir y fynwent. Gwnaed y rheiliau gan Jack Webb y gôf yn Sageston.
