Capel Bedyddwyr Bethesda
Cychwynnodd mudiad Bedyddwyr Sir Benfro yn hwyr yn yr 17eg ganrif, gyda chyfarfodydd yn Rushacre, Arberth, cartref Griffith Howell.
'Roedd capel Bedyddwyr cyntaf
Arberth (1808) yn gangen o gapel Molleston. Dengys cofnodion i gapel
newydd gael ei godi yn 1837, oherwydd cynnydd mawr yn y
cynulleidfaoedd, ac eto yn yr 1880au hwyr pan gafodd tŷ ac ysgoldy
eu codi yn ogystal.
