Caer Capel y Bae
Fe'i cwblhawyd yn 1891, a dyma un o'r caerau cyntaf yn y byd y gwyddys amdano sy wedi'i godi o goncrid heb gyfnerthydd ynddo ac mae'n unigryw am fod ei ddyluniad ar y pryd yn anarferedig.
10inch, 18 ton Rifled Muzzle-Loading Gun
Amgylchynir y brif gaer gan ffos sych 30 troedfedd o ddyfnder ac yn wreiddiol roedd yno dri dryll reiffl haearn gyr calibr 10" a lenwyd yn y tu blaen. Moderneiddiwyd y gaer yn 1901 a disodlwyd y drylliau gwreiddiol gan ddrylliau reiffl calibr 6" a lenwyd yn y bôn. Tu fewn i'r gaer roedd barics ar gyfer cant o ddynion yn ogystal â Thŷ'r Meistr Ynnwr, Ystafell Fwyta'r Swyddogion, bloc toiledau, ceginau ac arfdai. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd y gaer yn rhan o amddiffynfeydd yr Hafan. Byddai llongau a amheuid o gludo contraband yn cael eu hangori yn Stack Roads i'w harchwilio tra byddai drylliau Caer Capel y Bae wedi'u cyfeirio tuag atyn nhw. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y gaer yn rheoli rhai o'r gynnau saethu awyrennau a oedd yn amddiffyn yr Hafan.
Am flynyddoedd lawer gadawyd y gaer yn adfeilion. Erbyn hyn gweinyddir Caer Capel y Bae gan elusen gofrestredig sy'n gobeithio ei agor ar gyfer y cyhoedd pan gwblheir gwaith adnewyddu helaeth.
