Bae Lindsway

Yn 1955 yn rhan o Daith Coroniad y Frenhines gosododd Tywysog Charles a'r Dywysoges Anne eu traed ar dir Cymru am y tro cyntaf ym Mae Lindsway ar ddydd Sul, Awst 7.

Donna marikaY Donna Marika

Ym mis Awst 1973 aeth y tancer olew 11,000 tunnell Donna Marika i drafferthion ar Drwyn Longberry ar draeth Lindsway. Roedd yn cludo gwirod hedfan a fedrai ffrwydro ac roedd yn cael ei tharo'n ddidrugaredd gan storm enbyd. Treuliodd y criw o 38 chwe awr arswydus ar ei bwrdd nes iddyn nhw gael eu hachub. Symudwyd nifer o'r pentrefwyr a threuliodd y rhan fwyaf ddwy noson oddi cartref. Cyflwynwyd cloch y Donna Marika i'r pentref ac fe'i gwelir yn y Clwb Chwaraeon a Chymdeithasol.

Document Actions