Treftadaeth Gymunedol
Mae gan bob cymuned yn Sir Benfro hanes eang a chyfoethog sy'n estyn o adegau cynhanesyddol hyd at y bresennol.
Er mwyn archwilio'r amrywiaeth gyfoethog hwn, mae PLANED a'i cyn-drigolion, SPARC a TCRI, wedi helpu sefydlu grwpiau treftadaeth yn y sir a'u galluogi i wneud ymchwil a diogelu eu gorffennol. Fe ddefnyddiodd llawer o grwpiau yr ymchwil hon i gynhyrchu pamffledi treftadaeth (a paneli dehongliad) sydd yn rhoi cipolwg bendigedig ar hanes eu cymuned.
Mae arddangosfeydd treftadaeth, gwaith cydgyfnerthio, adferio a diogelu, recordio hanes ar lafar a phaneli dehongli i gyd wedi canlynu o waith hanes gymunedol. Mae llawer mwy o gysylltiadau a phartneriaethau gweithio wedi eu trefnu gyda cymunedau lleol sydd yn ymglymedig â diogelu hanes y sir: yn nodedig Amgueddfa'r Sir yn Scolton, Swyddfa Cofnodion y Sir a'r Llyfrgell Astudiaethau Lleol yn Hwlffordd, ac Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed yn Llandeilo.
